top of page

ADDYSG

 

Dysgodd Elfed y wyddor trwy astudio’r prif lythrennau yn y Beibl. Derbyniodd ei addysg gynnar yn yr Ysgol Sul ac mewn ysgol ‘Frutanaidd’ a agorwyd yn Festri Capel Blaen-y-coed, lle dysgid pob dim trwy gyfrwng y Saesneg, cyn symud ymlaen i Ysgol Castellnewydd Emlyn. Dywedir ei fod cystal disgybl nes ei fod yn aml yn cynorthwyo ei gyd-ddisgyblion â’u gwersi. Byddai ei waith bob amser yn drylwyr a graenus. Amlygwyd yr un nodweddion yn ystod ei bedair blynedd yn y Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin.

 

Astudiodd Elfed y clasuron yn ogystal â llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg gan ddysgu cynganeddu. Prin y byddai heb gyhoeddiad ar y Sul yn ystod y cyfnod hwnnw. Medrai’n hawdd fod wedi mynd i Brifysgol Glasgow i astudio am radd fel y gwnaeth nifer o’i gydfyfyrwyr yng Nghaerfyrddin.

 

Ond oherwydd yr aberth a wnaed gan ei rieni eisoes credai mai ei ddyletswydd oedd canfod gofalaeth cynted â phosib. Yn ugain oed derbyniodd Elfed alwad i fod yn weinidog ar gapel yr Annibynwyr Saesneg ym Mwcle, Sir Fflint. Pan holwyd ef yn ddiweddarach am ei benderfyniad i wasanaethu mewn eglwys Saesneg ei ateb oedd mai dyna’r unig alwad a gynigiwyd iddo.

 

Yn ystod ei oes fe’i anrhydeddwyd â graddau M.A., D.D. a Ll.D. Prifysgol Cymru yn gydnabyddiaeth am ei fynych gyhoeddiadau ar destunau diwinyddol a llenyddol. Elfed oedd y cyntaf i dderbyn tair gradd er anrhydedd gan y Brifysgol.

 

Cyhoeddodd astudiaethau o waith Ceiriog, Ann Griffiths a Morgan Rhys yn ogystal â chyfrol am hanes y bregeth Gymraeg ac emynyddiaeth. Roedd galw am ei wasanaeth fel darlithydd. Treuliodd dri mis yn America yn 1910 gan letya yng nghartre teulu D. L. Moody, yr Efengylydd adnabyddus. Bu hefyd ym Madagascar ddeng mlynedd yn ddiweddarach ar achlysur dathlu can mlynedd ers glaniad y cenhadon cyntaf yn y wlad a’r rheiny o’r Neuaddlwyd yn Sir Aberteifi.

 

Fe’i hystyriwyd yn ysgolhaig gwybodus yn hytrach na threiddgar.

Blaenycoed-Chapel-welsh.jpg
Newcastleemlyn-School-welsh.jpg
Carmarthen-Presbytery-welsh.jpg
bottom of page