top of page

DYDDIAU CYNNAR

 

Adroddir stori am un o flaenoriaid Capel Llwyn-yr-hwrdd, Tegryn, yng ngogledd Sir Benfro, yn codi ar ei draed i ddatgan ei bod yn hen bryd dechrau’r oedfa er nad oedd y pregethwr gwadd wedi cyrraedd. Gyda hynny cododd bachgen ifanc, oedd yn eistedd yn ei ymyl, ar ei draed a’i gwneud yn hysbys mai ef oedd y cennad y bore hwnnw.

 

Cafodd y gynulleidfa ei swyno gan allu’r crwt nad oedd eto wedi dathlu ei ben-blwydd yn 14 oed. Pasiodd Elfed ei brawf fel pregethwr gyda chlod. Y dyfalu ymhlith yr addolwyr ar y ffordd adref oedd i ba uchelfannau y dringai’r llanc ifanc.

 

Tebyg oedd ymateb cynulleidfa un o gapeli Treorci ymhen y flwyddyn wrth i bawb ryfeddu at allu’r bachgen gwan ac eiddil yr olwg yn y pulpud. Roedd wedi teithio i Gwm Rhondda i aros gydag un o frodyr ei fam oedd yn deiliwr yn y pentref glofaol.

 

Roedd Elfed eisoes wedi cael peth ysgol yng Nghastellnewydd Emlyn o dan Timothy Elias. Ond dylanwad pwysicaf blynyddoedd yr arddegau oedd y Cyrddau Gweddi y byddai’n eu mynychu yng nghwmni ei dad ar aelwydydd y fro.

 

Erbyn hynny roedd y teulu wedi symud i dyddyn Penlanchwilor – pedwerydd cartref Elfed ers ei eni yn Y Gangell – a’r nythaid o blant yn dal i gynyddu. Bu’r teulu’n byw am gyfnod yng Nghlun-bach Isaf ac yna ym Mhant-y-waun lle cadwai Anna Lewis siop.

 

Gadawyd ei dad, James Lewis, yn amddifad pan oedd yn saith oed a bu rhaid iddo ymorol dros ei hun fel gwas bach ar fferm un o’i berthnasau ym Mhen-y-graig. Roedd gan ei dad-cu, David Lewis, enw o fod yn dduwiol ac yn hoff o lyfrau. Pe bai wedi cael ei ffordd byddai wedi mynd i’r weinidogaeth.

 

Roedd ei fam, Anna, yn un o ddeg o blant a’i thad hithau, John Davies, yn deiliwr, ac yn arweinydd y gân yn ei gapel. Etifeddodd Elfed ei ddoniau o’r ddwy ochr i’r teulu. Fel ei dad-cu o deiliwr roedd Elfed yn fyr ei olwg ac yn gwisgo sbectol ers pan oedd yn ifanc.

bottom of page