Cafwyd noson arbennig yng Nghapel Annibynnol Pen-y-bont ar nos Sul, 16eg Mehefin i gofio 150 o flynyddoedd ers pregeth gyntaf Howell Elvet Lewis (Elfed) - gweinidog, emynydd, prifardd a chyn-archdderwydd Cymru. Mae'n amlwg ei fod yn dalentog o oedran ifanc iawn - dim ond 13eg oed oedd pan draddododd ei bregeth gyntaf! Trefnwyd yr achlysur gan 'Bwyllgor y Gangell' a chadeirydd y pwyllgor, Delme Phillips, Gilfach-y-Jestyn oedd yn llywyddu'r noson. Cafwyd cyfle i ddysgu am hanes Elfed, clywed a chyd-ganu rhai o'i emynau, a chael ein diddanu gan glipiau fideo a chwis. Ffordd hyfryd i ddathlu a chofio un o enwogion talentog ein bro.
Yn ogystal ym mis Mehefin roedd Amgueddfa'r Gangell yn dathlu chwe deg o flynyddoedd ers ei hagor ar Fehefin 13eg, 1964. Os hoffech ymweld â'r Gangell, neu ddarllen am hanes Elfed a'r gwaith o sefydlu'r Gangell fel amgueddfa, ewch ati i bori drwy'r wefan goffa: www.coffaelfed.cymru.
Llun o'r gynulleidfa ddaeth ynghyd i Gapel Pen-y-bont i ddathlu'r 150 o flynyddoedd ers pregeth gyntaf y Parch Howell Elvet Lewis
Llun o aelodau 'Pwyllgor y Gangell' a'r rhai fu'n cymryd rhan yn y cwrdd dathlu ar nos Sul 16eg Mehefin.
Nerys Defis
Comments