COFFA
ELFED
Y GYMDOGAETH DDA
Trof i faes cynhaeaf yr ardal yn y dyddiau gynt. Dyna adeg hapusaf, fwyaf cyfeillgar y flwyddyn. Yr oedd popeth fel yn newid yn sŵn cyntaf y pladuriau yn lladd gwair. Dechreuid gyda thoriad y wawr, a'r gwlith yn ireiddio'r awyr, i osgoi caledwaith ym mhoethder y dydd. O hynny ymlaen hyd at gywain y llwyth olaf o lafur (ỳd) i'r ydlan, yr oedd yr holl gymdogaeth fel un frawdoliaeth dirion, a phawb yn cynorthwyo ei gilydd.
Am gyrchu glo, neu ryw gymwynas gyffelyb yn y gaeaf, ‘dwarnod neu fwy o gynhaea’ oedd y tâl gan lawer bythynnwr, a gwraig weddw ; a'r ffermwyr yn trefnu dyddiau medi, i fenthyca gweision a morwynion ei gilydd. Erys yr olygfa yn fy nghof fel rhyw ddarn o wlad yr hud, gan fod y peiriannau newydd wedi newid y cyfan erbyn heddiw, ac wedi tarfu cymdogaeth dda, yn y ffurf honno, bron yn llwyr o'r ardal.
Ar fore hafddydd ‘hirfelyn tesog’ gwelid o ugain i ddeg ar hugain o'r ardalwyr yn cyrchu i'r maes, a'r tywysennau aeddfed fel yn eu croesawu wrth ymgrymu dan gyffyrddiad adain ysgafn yr awel gynnes.
Llanciau a gwyryfon yn hoender gwanwyn oes, eraill a'u gwallt wedi gwynnu ond yn hen gynefin â'r cryman, ac yn fedrus ar ei drin. Os oedd yno chwŷs diferol cyn pen llai nag awr, yr oedd yno hefyd fân gellwair a ‘mocian’ chwareus ac ambell dric bach diniwed, - ac weithiau ddechrau caru, - ac os oedd yno gariadon hysbys fwy neu lai yn y cwmni, treiai pob un ei law ar eu ‘plago’ gydol y dydd heulog. Ác nid oedd hanner dydd yn dod eiliad yn rhy gynnar, i eistedd ar y sedrem a mwynhau cinio ar y cae yn un cwmni diddan heb fwrdd, heb serfiet, ond gyda mwy o flas nag yn y Trocadero unrhyw noson loddestgar.
Yr oeddem ni, blant, yno i ‘gario 'nghyd,’ - hynny yw, i gasglu'r ysgubau at ei gilydd, i'w taclu yn ‘swgwrn’ neu ‘ddas dan llaw,’ neu ‘ddas pen lin’, - yn ôl cyflwr ac argoelion y tywydd. Yr oedd y syched yn felys, ac hyd yn oed y lludded erbyn yr hwyr yn felys: am fod rhyw naws o gymdogaeth dda ac ewyllys i estyn cymorth, a chyfathrach fel cyfathrach aelwyd garuaidd, yn fantell ysgafn o hawddgar hud dros yr holl ardal.
Y mae yn fy nghlust y funud hon chwibaniad croyw, iach rhyw lanc o bladurwr ar ei ffordd adref, a diwrnod da o waith eisoes yn rhag-felysu ei gwsg. Ac yn uchel yn yr awyr dyna chwibaniad arall, a'i sain megis yn gwynfanus. Y ‘whibanwr’ ( gylfinir, curlew) ydyw, ar ddwy adain dawel, araf, yn mordwyo yng nglesni hwyrddydd haf - glesni yn dyfnhau i wyrdd tywyll, gorffwysgar.
I ble'r oedd ei daith, ni wyddwn ; ac ni wyddwn chwaith i ba bellterau anhysbys yr oedd taith y llencyn syn a'i gwrandawai, rhwng llonder hirddydd haf a naws o brudd-der na ddeallai paham. Onid oeddwn innau ar daith ddieithr a dilwybr? Ai cysgod anelwig ac ansicr dyfodol oes oedd yn lleddfu'r llonder?