top of page

Y Llenor

 

Enillodd Elfed ei wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan oedd yn 20 oed yng Nghaernarfon am gyfansoddi cyfres o englynion ar y testun ‘Saith Tymor Dyn’. Yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain yn 1887 enillodd ar gyfansoddi traethawd ar y testun ‘Barddoniaeth Gymraeg yn y Ddeunawfed Ganrif’.

 

Profodd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 1888 yn hynod ffrwythlon i Elfed. Enillodd y Goron am bryddest ar y testun ‘Saboth yng Nghymru’ yn ogystal ag ennill ar gyfansoddi rhieingerdd ar y testun ‘Llyn y Morwynion’ a thraethawd ar ‘Athrylith John Ceiriog Hughes’.

 

Y flwyddyn ddilynol yn Eisteddfod Genedlaethol Aberhonddu enillodd y Goron am arwrgerdd ar y testun ‘Llywelyn ein Llyw Olaf’ ac yna’r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1894 am awdl ar y testun ‘Hunanaberth’.

 

Yn ystod ei gyfnod fel Archdderwydd rhwng 1923 a 1927 derbyniodd Dug a Duges Efrog, y darpar frenin Siôr VI a’i wraig, yn aelodau o’r orsedd

 

Bernid fod Elfed yn drwm o dan ddylanwad rhamantiaeth Islwyn a John Morris-Jones yn ogystal â’r Rhamantwyr Saesneg. Cyhoeddwyd nifer o gyfrolau o’i farddoniaeth yn y ddwy iaith. Ystyrir ei ddwy gyfrol Caniadau yn 1895 a 1901 fel y pwysicaf o’i eiddo. Fe’u hailgyhoeddwyd yn un gyfrol yn 1909 gymaint oedd eu poblogrwydd.

Elfed-Eisteddfod-Chair-welsh.jpg
israel-others-welsh.jpg

Profodd ei delynegion am dlysni natur yn boblogaidd yn arbennig cerddi fel ‘Gwyn ap Nudd’ a ‘Pan Ddaw’r Nos’. Sonnir fel y byddai Esgob Llandaf, Thomas Rees, yn ogystal â Brynach, athro beirdd ar y ffin rhwng Sir Benfro a Sir Gâr, yn adrodd y bryddest ‘Gorsedd Gras’ ar eu cof. Rhoes y bryddest honno y Gadair i Elfed yn Eisteddfod y Pasg Bermo yn 1887.

 

Ar un adeg cyhoeddwyd erthyglau cyson o’i eiddo ar bynciau llenyddol yn Y Genhinen yn nhraddodiad Charles Ashton a Thomas Stephens. Edmygai waith Ceiriog yn fawr a chyhoeddwyd cyfrol o’i eiddo o dan y teitl Athrylith John Ceiriog Hughes yn 1899. Cyfrol arall o’i eiddo oedd Welsh Catholic Poetry of the Fifteenth Century a gyhoeddwyd yn 1912.

 

Bu Elfed am gyfnod yn olygydd Y Dysgedydd, un o gyhoeddiadau’r Annibynwyr. Mae nifer o’i gyfraniadau yn taflu golwg werthfawr ar fywyd cymdeithasol ei fro enedigol yng nghyfnod ei blentyndod wrth iddo sôn am y Fari Lwyd a chymeriadau’r ardal (gweler tudalen Atgofion).

 

Ymhlith ei gyfrolau Saesneg cymeradwyir My Christ and Other Poems (1891), Israel and Other Poems (1930) a Songs of Assisi (1938).

 

Tystia’r Athro Thomas Parry yn ei gyfrol Hanes Llenyddiaeth Cymru (1944) fod Elfed wedi arwain y ffordd fel bardd y canu rhydd ac wedi profi’n un o’r cerrig sarn a arweiniodd y beirdd ‘allan o gors y bedwaredd ganrif ar bymtheg’.

gettyimages-78950415-1024x1024.jpg
Elfed yn regalia Archdderwydd
Ben_Davies_ac_Elfed_(enillwyr_y_goron_a'r_gadair_Eisteddfod_1894).jpg
Enillwyr y goron a'r gadair (Elfed) eisteddfod Caernarfon 1894
bottom of page