COFFA
ELFED
YMWELD
Yn 1962 fe wnaeth pobl leol ardal Blaen-y-coed fynd ati i gasglu arian i brynu'r Gangell, y bwthyn sydd yn glwm (Rhydfelen) a thir o amgylch er mwyn creu coffa i Elfed i genedlaethau’r dyfodol. Fe wnaeth y gymdeithas gasglu £200 ar gyfer yr achos. Roedd y ddau fwthyn yn dechrau dadfeilio ac yn cael ei defnyddio fel storfa ac roedd angen llawer o waith er mwyn ei atgyweirio. Gallwch weld ar yr ochor dde llun Geoff Charles o'r Gangell yn 1960 cyn dechrau ar y gwaith ac wedyn beth mae'n edrych erbyn heddiw. Fe agorwyd yr amgueddfa yn swyddogol ar 13 Mehefin 1964.
Mae'r Gangell yn ddwy ystafell fach sy'n edrych yn debyg i beth oedd bwthyn yn edrych fel yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dyma le arbennig yn hanes ein gwlad- lleoliad ble gannwyd Howell Elvet Lewis neu Elfed.
Mae yna arddangosfa o fywyd Elfed gyda byrddau gwybodaeth, cadair eisteddfodol Abermaw enillodd Elfed yn 1888 yn Wrecsam a theclyn sain a sgrin sy'n chwarae llais Elfed yn ogystal â chôr yn canu rhai o'i emynau a gyfansoddwyd ganddo.
Mae'n bosib trefnu i un ohonom ni i roi taith o'r Gangell ac adrodd hanes Elfed ar lafar i chi drwy gysylltu o flaen llaw.
Dewch i ddarganfod beth oedd ei fel i fyw mewn amgylchiadau mor anodd i'r teulu cefn gwlad yma.
Mae rhai o'r llwybrau yn anwastad, yn enwedig ar y pwynt mynediad. Mae toiled ar gael yn ogystal â lle i gael picnic. Rhowch wybod os oes gennych unrhyw anghenion arbennig. Mae'r lle parcio yn gyfyngedig.
Peintiad o'r Gangell gan Catrin Phillips (Gilfach)
Er mwyn trefnu i weld tu mewn i'r Gangell gallwch gysylltu gyda'r gofalwr (sy'n byw yn y bwthyn drws nesaf)
Rhydfelen,
Blaenycoed,
Cynwyl Elfed,
Sir Gaerfyrddin,
SA33 6UB
Rhif ffon
Gallwch hefyd cysylltu gyda Delme Phillips er mwyn trefnu taith o gwmpas Y Gangell: 01994484227
Nid oes tal yn cael ei codi ond mae yna bocs rhoddion os ydych chi eisiau.